Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 8 Gorffennaf 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.00 - 11.53 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Christine Chapman AC (Cadeirydd) Peter Black AC Alun Davies AC Janet Finch-Saunders AC Suzy Davies AC (yn lle Mark Isherwood AC) Lynne Neagle AC (yn lle Mike Hedges AC) Gwyn R Price AC John Griffiths AC (yn lle Gwenda Thomas AC) Rhodri Glyn Thomas AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Ken Skates AC, Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth Gwilym Hughes Eifiona Williams, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Matthew Richards (Cynghorydd Cyfreithiol) Robin Wilkinson (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Gwenda Thomas AC, Mike Hedges AC, Jocelyn Davies AC a Mark Isherwood AC. Dirprwyodd John Griffiths AC, Lynne Neagle AC, Bethan Jenkins AC a Suzy Davies AC ar eu rhan yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.
2 Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth 8 - y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
· Gwilym Hughes, Prif Arolygydd, Cadw
· Eifiona Williams, Cyfreithiwr, Llywodraeth Cymru
2.2 Cytunodd y Dirprwy Weinidog i ddarparu'r canlynol:
· Y sail ar gyfer yr amcangyfrifiad o gostau o ran gosod dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i greu a chynnal rhestrau lleol o asedau hanesyddol;
· Yr amserlen ar gyfer adroddiad y Panel Arbenigol ar yr adolygiad mewn perthynas â darparu amgueddfeydd yn y dyfodol a'u cynaliadwyedd;
· Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed yn erbyn argymhelliad y Pwyllgor yn ei adroddiad yn 2013 ar Bolisi Amgylchedd Hanesyddol Llywodraeth Cymru; sef y dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i opsiynau o ran cyflwyno system sy'n golygu y bydd y perchennog newydd yn cael canllawiau clir gan yr awdurdod lleol ynghylch y cyfyngiadau a'r cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â'r statws rhestredig, a hynny mewn achosion lle mae chwiliadau awdurdod lleol yn dangos bod adeilad yn rhestredig a/neu mewn ardal gadwraeth;
· Manylion am y dadansoddiad o'r wyth cytundeb partneriaeth treftadaeth sydd wedi'u treialu yn Lloegr.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
5 Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): trafod y dystiolaeth a gafwyd yn sesiwn 8 a thrafod y materion allweddol
5.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a gafwyd ac yn ystyried y materion allweddol, er mwyn llywio ei adroddiad Cyfnod 1.
6 Ymchwiliad i Dlodi yng Nghymru: dulliau cymunedol o drechu tlodi - trafod y papur cwmpasu
6.1 Trafododd y Pwyllgor y papur cwmpasu a chytuno ar ei ymagwedd o ran yr ymchwiliad i dlodi yng Nghymru: dulliau cymunedol o drechu tlodi.
7 Y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): trefn y drafodaeth ar gyfer trafodion Cyfnod 2
7.1 Trafododd a chytunodd y Pwyllgor ar drefn y drafodaeth ar gyfer trafodion Cyfnod 2 ar gyfer y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru): adrannau 7 i 29, adrannau 31 i 88, adrannau 90 i 101, adrannau 103 i 119, adrannau 121 i 131, adrannau 133 i 145, adrannau 147 i 255, Atodlenni 2 i 11, adran 30, adran 89, adran 102, adran 120, adran 132, adran 146, adrannau 1 i 4, Atodlen 1, adrannau 5 i 6, Teitl hir.
8 Trafod y flaenraglen waith
8.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref.